Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir
10 Tachwedd 2014
CLA456
- Rheoliadau Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cosbau
Penodedig) (Cymru) 2014
Gweithdrefn:Negyddol
Mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â chosbau penodedig a wneir o dan adran 13 (3) a (4) o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 ("y Ddeddf"). Mae Rheoliad 2 yn rhagnodi'r amrywiaeth sy'n rhaid cadw ato ar gyfer cyfanswm cosb benodedig sy'n daladwy yn unol â hysbysiad o dan adran 12 o'r Ddeddf. Mae'r costau'n amrywio rhwng £50 a £150.
Nid yw'r adrannau o'r Ddeddf sy'n cynnwys y darpariaethau sylweddol ynghylch cosbau penodedig mewn grym ar hyn o bryd. Mae'r Pwyllgor yn deall y bwriedir iddynt ddod i rym yn gynnar yn 2015, er mwyn caniatáu i awdurdodau lleol baratoi at roi'r adrannau hynny ar waith gan wybod am yr holl amrywiaethau o gosbau penodedig y gellir eu cymhwyso.
CLA458 - Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Lonydd Bysiau a Thraffig sy’n Symud (Dinas a Sir Caerdydd) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Gorchymyn hwn yn dynodi’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau lonydd bysiau a thraffig sy’n symud at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
Effaith ymarferol y Gorchymyn yw galluogi Cyngor Dinas a Sir Caerdydd i orfodi’r gyfraith ar dramgwyddau lonydd bysiau a thraffig sy’n symud yn yr ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn drwy gyfundrefn cyfraith sifil.
CLA459 - Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dinas a Sir Caerdydd) (Diwygio) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dinas a Sir Caerdydd) 2010 (O.S. 2010/1461 (Cy.133)) er mwyn cynnwys yn yr ardal gorfodi sifil a’r ardal gorfodi arbennig ffyrdd penodol a oedd gynt wedi eu heithrio.
CLA460 - Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu’r Weithdrefn) (Cyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2014
Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 21B a 40 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (“Deddf 1990”). Mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu rhagflaenu gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2014, a fewnosododd adran 21B yn Neddf 1990.
Mae adran 21B o Ddeddf 1990 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru bennu’r weithdrefn ar gyfer rhai achosion yng Nghymru, sef achosion ar gyfer ceisiadau sy’n cael eu hatgyfeirio at Weinidogion Cymru o dan adran 20 ac apelau o dan adran 21 o Ddeddf 1990. Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r weithdrefn ar gyfer achosion o’r fath cyn diwedd y cyfnod rhagnodedig. Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi mai saith niwrnod gwaith o’r dyddiad perthnasol yw’r cyfnod hwnnw, sy’n cael ei ddiffinio at y dibenion hyn.
CLA461 - Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 319B a 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”). Mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu rhagflaenu gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2014, a fewnosododd adran 319B yn Neddf 1990.
Mae adran 319B o Ddeddf 1990 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru bennu’r weithdrefn ar gyfer rhai achosion yng Nghymru, sef achosion ar gyfer ceisiadau sy’n cael eu hatgyfeirio at Weinidogion Cymru o dan adran 77 ac apelau o dan adrannau 78, 174, 195 a 208 o Ddeddf 1990. Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r weithdrefn ar gyfer achosion o’r fath cyn diwedd y cyfnod rhagnodedig. Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi mai saith niwrnod gwaith o’r dyddiad perthnasol yw’r cyfnod hwnnw, sy’n cael ei ddiffinio at y dibenion hyn.
CLA462 - Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Pennu’r Weithdrefn) (Cyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 88E a 93 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (“Deddf 1990”). Mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu rhagflaenu gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2014, a fewnosododd adran 88E yn Neddf 1990.
Mae adran 88E o Ddeddf 1990 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru bennu’r weithdrefn ar gyfer rhai achosion yng Nghymru, sef achosion ar gyfer ceisiadau sy’n cael eu hatgyfeirio at Weinidogion Cymru o dan adran 12 ac apelau o dan adrannau 20 a 39 o Ddeddf 1990. Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r weithdrefn ar gyfer achosion o’r fath cyn diwedd y cyfnod rhagnodedig. Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi mai saith niwrnod gwaith o’r dyddiad perthnasol yw’r cyfnod hwnnw, sy’n cael ei ddiffinio at y dibenion hyn.